Mae iechyd meddwl yn faes o anabledd sy’n aml yn cael ei gamddeall, yn enwedig yn y gweithle. Mae ein ffilm yn herio’r agweddau tuag at bobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl ac yn annog cyflogwyr a all efallai ddiystyru ymgeiswyr am swyddi sydd â hanes o gyflyrau iechyd meddwl i feddwl eto.
Mae’r ffilm yn dangos adran ddamweiniau brysur sy’n chwilio am aelod o staff newydd sy’n gallu camu i mewn a gwneud penderfyniadau y mae bywyd yn dibynnu arnynt. Ond a fydd yr ymgeisydd oedd gyda phroblemau iechyd meddwl blaenorol yn cael y swydd?
Mae’r fersiynau 30 eiliad a 60 eiliad o’r ffilm a ddangosir ar y teledu yn annog y gwyliwr i gwestiynu beth buasai hwy yn ei wneud o dan yr un amgylchiadau. Beth y gallant ei golli os na fyddant yn ystyried talentau’r ymgeisydd?

