Ymgyrchoedd


Beth yw lladrad budd-dal?

Mae pawb sy'n cyflawni twyll budd-daliadau yn lleidr budd-daliadau!

Mae llawer o bobl yn credu bod lladrad budd-dal ond yn berthnasol i’r rhai hynny sy’n gweithio am ‘arian mewn llaw’ wrth hawlio Lwfans Ceisio Gwaith. Nid yw hyn yn gywir. Mae pob lladrad budd-dal yn drosedd.

Mae dwyn budd-daliadau yn cynnwys gwrthod dweud wrthym yn fwriadol:

  • eich bod nawr yn byw gyda phartner
  • am unrhyw gynilion neu beidio â dweud wrthym am y swm cywir
  • bod eich plant wedi gadael gartref
  • eich bod wedi dechrau gwaith, neu am unrhyw enillion
  • eich bod wedi etifeddu arian
  • eich bod yn mynd dramor, yn byw dramor, neu wedi newid cyfeiriad

Nid oes unrhyw eithriadau. Mae pobl sy’n atal gwybodaeth neu nad ydynt yn rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau yn fwriadol yn lladron budd-daliadau. Nid yw’n fater o ‘chwarae’r gêm' - mae’n torri’r gyfraith!

Eich cyfrifoldeb chi yw i ddiweddaru eich cais.

Nid os y byddwn yn eich dal, ond pryd. A phan ddaliwn ni chi, gallech wynebu dedfryd o garchar.

Dirwy