Ystod lawn o gosbau
Rydym yn targedu lladron budd-daliadau gydag ystod lawn o gosbau
Lladron budd-daliadau - nid os y byddwn yn eich dal, ond pryd. A phan ddaliwn ni chi, rydych yn wynebu:
- talu'r swm llawn o arian yn ôl ac weithiau mwy na'r hyn a ddygwyd gennych
- erlyniad
- cofnod troseddol
- dirwy
- cael eich budd-dal wedi’i stopio neu ei leihau
- cymryd eich cartref a'ch eiddo oddi arnoch
- a hyd yn oed dedfryd o garchar.
Unwaith rydym wedi cwblhau ein holl ymchwiliadau gofynnir i chi fynychu cyfweliad wedi'i recordio o dan rybudd. Ac nid yw stigma twyll budd-daliadau yn rhywbeth y gallwch ei gadw'n dawel. Ni fydd modd cuddio'r cywilydd rhag eich teulu, eich ffrindiau na'ch cymdogion.
O’r 1 Ebrill 2010, gallech gael eich budd-dal wedi’i stopio neu ei leihau am 4 wythnos os ydych yn eich cael yn euog, yn cael rhybuddiad neu eich bod yn cael cosb weinyddol am drosedd cyntaf o dwyll budd-dal.
Ac os ydych yn eich cael yn euog o ddwy drosedd gwahanol o dwyll budd-dal o fewn 5 mlynedd, gallech gael eich budd-dal wedi’i stopio neu ei leihau am hyd yn oed mwy o amser.