Lladrad budd-daliadau
Rydym am glywed amdano
Os wyddoch am unrhyw un sy'n dwyn budd-daliadau gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Twyll Budd-daliadau Genedlaethol ar 0800 678 3722 neu 0800 854 440 am wasanaeth Saesneg. Mae eich galwad am ddim ac yn gyfrinachol, nid oes raid i chi roi eich enw na'ch cyfeiriad. Mae’r llinellau ar agor o 7.00am i 11.00pm, 7 diwrnod yr wythnos.
Neu gallwch Hysbyswch leidr budd-daliadau ar-lein.
Os oes gennych broblemau ar eich lleferydd neu ar eich clyw gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth ffon testun ar 0800 328 0512 .
Os yw eich amgylchiadau wedi newid
Os byddwch yn fwriadol yn peidio â rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau personol, fe gewch eich trin fel rhywun sydd wedi cyflawni twyll budd-dal. Os cewch eich erlyn am dwyll budd-dal, gallech wynebu dirwy neu ddedfryd o garchar.
Cysylltwch â’r swyddfa sy’n talu eich budd-dal a rhowch wybod iddynt am unrhyw newidiadau sy’n effeithio eich cais. Ar gyfer credydau treth ewch i www.direct.gov.uk/taxcredits ac os rydych yn cael Budd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Cyngor, cofiwch hefyd ddweud wrth eich cyngor lleol.
Nid os y byddwn yn eich dal, ond pryd. A phan ddaliwn ni chi, gallech wynebu dedfryd o garchar.
