Ymgyrchoedd


Lladron budd-daliadau yn mynd dramor

Nid os y byddwn yn eich dal, ond pryd

Nid oes lle i guddio i unrhyw un sy'n dwyn budd-daliadau pan fyddant dramor.

Os ewch dramor

Cofiwch  - os byddwch yn hawlio budd-daliadau ac yn mynd dramor, am unrhyw gyfnod, mae’n rhaid i chi ein hysbysu cyn i chi adael gan y gallai effeithio ar eich budd-daliadau.

Ceir ychydig enghreifftiau isod.

  • Cymhorthdal Incwm – enghraifft

Mae Sara’n mynd â’i phlant ar wyliau i Ffrainc am chwe wythnos yn ystod yr haf eleni i aros gyda’i chwaer. Gan ei bod yn cael Cymhorthdal Incwm ac yn aros dramor am  fwy na phedair wythnos bydd hyn yn effeithio ar ei chais a bydd rhaid iddi ddweud wrth ei swyddfa fudd-daliadau leol cyn iddi adael.

  • Lwfans Ceisio Gwaith – enghraifft

Mae Martyn yn cael Lwfans Ceisio Gwaith ac yn penderfynu mynd ar ei wyliau gyda’i ffrindiau i Ibiza. Os na fydd yn rhoi gwybod i ni ei fod yn mynd, mae’n cyflawni twyll budd-dal. Os ydych yn cael Lwfans Ceisio Gwaith, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith os ydych yn mynd dramor am unrhyw gyfnod o amser - hyd yn oed ar gyfer gwyliau - gall hwn effeithio ar eich cais.

  • Credyd Pensiwn  – enghraifft

Mae’n fis Hydref, ac mae Elsie a Reg yn teithio i Benidorm am chwe mis i dreulio’r gaeaf yn yr haul. Gan eu bod yn hawlio Credyd Pensiwn ac i ffwrdd am fwy na 13 wythnos  bydd hyn yn effeithio ar eu cais ac mae’n rhaid iddynt roi gwybod i ni eu bod yn mynd.

Enghreifftiau’n unig yw’r rhain am sut y gall mynd dramor effeithio ar ambell fudd-dal. Am ragor o gyngor ar sut y mae hyn yn berthnasol i chi, cysylltwch â’r swyddfa sy’n talu eich budd-daliadau.

Os byddwch yn mynd dramor ac yn parhau i hawlio budd-daliadau nad oes gennych hawl i’w cael, gall arwain at erlyniad, carchariad ac hyd yn oed atafaelu eich cartref a’ch eiddo.

Lladrad budd-dal - rydym am glywed amdano

Amcangyfrir o fis Ebrill 2010 i fis Mawrth 2011, y collwyd £79m o ganlyniad i ordaliadau twyll budd-dal i geiswyr nad oeddent wedi rhoi gwybod i ni eu bod yn mynd dramor am fwy na’r hyn a ganiateir gan y rheolau. Mae hyn yn golygu bod trethdalwyr Prydain yn talu am ymweliadau tramor twyllwyr.

Os ydych chi’n adnabod rhywun sy'n cyflawni twyll budd-daliadau gallwch gysylltu â’r Llinell Frys Twyll Budd-dal Cenedlaethol ar 0800 678 3722. Bydd eich galwad am ddim ac yn gyfrinachol. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am ac 6.00pm.

Neu gallwch roi gwybod am leidr budd-daliadau ar-lein.

Lladron budd-daliadau yn mynd dramor. Nid os y byddwn yn eich dal, ond pryd.

Erlyniad